SL(6)220 – Rheoliadau Addysg mewn Lleoliadau Lluosog (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn sefydlu fframwaith newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer disgyblion a phlant yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol priodol lunio ac adolygu cynllun ar gyfer y plant hynny a’r disgyblion hynny sy’n cael eu haddysgu mewn mwy nag un lleoliad. Rhaid i’r cynllun nodi’r addysgu a dysgu sydd i’w ddarparu ar gyfer y plentyn neu’r disgybl ym mhob lleoliad, a’r trefniadau asesu a fydd yn gymwys i’r plentyn neu’r disgybl ym mhob lleoliad.

Bydd cychwyn y Rheoliadau hyn yn adlewyrchu'r bwriad i gyflwyno'r cwricwlwm newydd, a gyflwynir yn raddol dros gyfnod o amser fesul grŵp blwyddyn.

Y weithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae'r term “pennaeth” yn ymddangos yn y Rheoliadau hyn ond nid yw wedi'i ddiffinio. Mae Offerynnau eraill yn y gyfres, megis Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 2) 2022, yn diffinio'r term “pennaeth” (fel un sydd â'r ystyr a roddir iddo yn adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996).

Gofynnwn i Lywodraeth Cymru esbonio’r anghysondeb yn y dull a ddefnyddir ar draws y gyfres, gan y gallai achosi dryswch i’r darllenydd.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

28 Mehefin 2022